Available translations: English

Asesiadau modelu ymatebol 

Prif nod Quick Start ERAMMP oedd darparu Llywodraeth Cymru ag asesiad cychwynnol a chyflym o’r newidiadau posib yn sgil senarios Brexit ac archwilio’r cysyniad cynllun nwyddau cyhoeddus.  

Roedd y canlynol yn nodweddion allweddol o’r asesiad Quick Start: 

  • Yn tynnu ar farn arbenigol o bolisi LlC wrth ddatblygu senarios argyhoeddiadol 
  • Yn defnyddio cydraniad graddfa maes, fferm a dalgylch gan ddibynnu ar berthnasedd i fudd y cyhoedd 
  • Gallu defnyddio data gweinyddol (IACS) 
  • Yn cynnwys modelau prosesau sy’n galluogi sensitifrwydd o ran yr hinsawdd bresennol 
  • Mae allbynnau wedi’u modelu ac nid ydynt yn torri diogelu data personol/GDPR 

Allbynnau sy’n cael eu cynnwys

  • Coedwigaeth (atafaeliad C coetiroedd a’u gwerth amnewidiol ar gyfer ynni ac adeiladu a gyfrifwyd ond nas adroddwyd arno eto) 
  • Rheoleiddio'r hinsawdd (allyriadau nwyon tŷ gwydr, pridd a mawn C) 
  • Dŵr (maetholion a gwaddodion i afonydd) 
  • Aer (allyriadau a ffurfiad gronynnau) 
  • Iechyd (ansawdd aer (PM2.5) ac effeithiau ar iechyd dynol) 
  • Bioamrywiaeth (bioamrywiaeth planhigion; effaith ar adar magu) 
  • Adloniant 

Caiff yr holl allbynnau, ac eithrio bioamrywiaeth, eu mynegi fel gwerth economaidd lle bo’n briodol, a chaiff yr holl ansicrwydd ei asesu drwy restr dryloyw o’r holl dybiaethau a thrwy farn arbenigol 

Roedd Quick Start ERAMMP ar gyfer asesiad cychwynnol cyflym iawn o newid. Am asesiad integredig mwy manwl, gweler yr IMP

Adroddiadau a gweithgareddau cysylltiedig